![]() | |
![]() Dyfed Alsop, Prif Weithredwr | |
Gorolwg Adran llywodraeth anweinidogol | |
---|---|
Ffurfiwyd | 1 Hydref 2017 |
Awdurdodaeth | ![]() |
Gweithwyr | 80 (2022) |
Gweinidog cyfrifol |
|
Swyddogion Adran llywodraeth anweinidogol |
|
Dogfen allweddol |
|
Gwefan | llyw.cymru/awdurdod-cyllid-cymru |
Corff cyhoeddus yw Awdurdod Cyllid Cymru (Saesneg: Welsh Revenue Authority), sy'n gyfrifol am gasglu trethi datganoledig Cymru. Sefydlwyd y pwerau ar gyfer creu trefniant i gasglu trethi datganoledig yn Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016. [1]
Mae gan y corff swyddfeydd ym Mhar Busnes Rhydycar (Merthyr Tufdul) ac adeilad Parc Cathays 2 (Caerdydd).[2] Cafodd aelodau bwrdd yr awdurdod eu penodi yn Haf 2017 a cyfarfu'r awdurdod am y tro cyntaf ar 18 Hydref 2017.[3] Daeth yr awdurdod yn gwbl weithredol yn Ebrill 2018, ac o'r dyddiad hwn roedd Cymru'n casglu peth o'i threthi am y tro cyntaf ers 800 mlynedd. Mae'r corff yn gyfrifol am gasglu Treth Trafodiadau Tir a'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi a threth incwm (Cyfradd Treth Incwm Cymru (CTIC)) ers 2019.
Penodwyd Kathryn Bishop yn gadeirydd gyntaf yr awdurdod ar 20 Chwefror 2017 yn dilyn pleidlais gan Bwyllgor y Cynulliad, y tro cyntaf i wrandawiad gael ei gynnal cyn penodiad Gweinidogol.[4] Penodwyd Dyfed Edwards, cyn-arweinydd Cyngor Gwynedd, fel is-gadeirydd yn Medi 2018.[5]